6/30/10

Ffafrau y Briodferch

Ffafrau PriodasDaeth yn arferiad i briodferch roi anrhegion (ffafrau) i westeion mewn priodas - er mwyn diolch iddyn nhw am ddod i geisio bendith ar y briodas ac hefyd fel atgoffeb iddyn nhw o'r achlysur, fel eu bod yn dal i gofio am y ddau sy'n priodi. Fel arfer, mae'r anrhegion hyn yn cael eu gosod ar y byrddau o flaen gwesteion yn y wledd briodas.

Welsh  Wedding FavoursLlwyau Caru Bach wedi cerfio â llaw : Mae Cadwyn yn darparu man lwyau caru fel anrhegion priodas o'r fath, ac felly'n priodi'r arferiad modern hwn gyda'r traddodiad o roi llwy garu ar adeg priodas. Yn wahanol i gyflenwyr eraill, nid ydym ni'n gwerth Llwyau sydd wedi'u gwneud mewn rhifau anferth gyda pheiriannau. Mae ein holl Lwyau Caru sydd gyda ni wedi eu cerfio â llaw yng Nghymru.

Gallwch ychwanebu rhiban at y ffafrau i gydfynd gyda thema'r briodas, y blodau neu wisgoedd y morwynion - mae i fyny i chi!

Welsh Wedding FavoursLlosgi rhad ac am ddim : Heb unrhyw gost ychwanegol gallwn losgi byrfoddau enwau'r priodfab a'r briodferch un ar bob calon er mwyn sicrhau anrheg personol na chaiff byth ei anghofio.

Dosbarthiad cyflym : Caiff pob Archeb ei ddanfon o fewn 2 niwrnod gwaith.

Welsh Wedding FavoursCerdyn rhad ac am ddim: Mae pob llwy garu yn dod gyda cherdyn bach gyda'r geiriad canlynol "Cyflwynwn i chi'r llwy garu fach hon, fel arwydd o'n diolch i chi am ddod heddi i fendithio ein priodas. Roedd hi'n draddodiad Cymreig i roi llwy garu, gyda 2 galon, fel symbol o'r ymroddiad llwyr y naill i'r llall." Gallwn hefyd ychwanegu eich enwau i'r cardiau yma hefyd os ydych chi'n dymuno.

Pwyswch yma i fynd at wefan Cadwyn.